Ein Cwricwlwm Our Curriculum

Acen. Atgofion. Cred.

Acen.

(Accent)

Byddwn yn trysori'r iaith Gymraeg ac yn ei defnyddio’n hyderus yn yr ysgol ac yn ein cymunedau, er mwyn sicrhau ei pharhad fel iaith fyw a llewyrchus.

We will treasure the Welsh language and use it confidently in our school and in our communities, ensuring it's future as a living and prosperous language.


Atgofion.

(Memories)

Byddwn yn derbyn profiadau cyfoethog a chofiadwy o fewn a thu allan i’r ysgol ar draws pob maes dysgu.

We will receive memorable and enriching experiences within and outside of the school across all areas of learning.


Cred.

(Belief)

Byddwn a'r hunan-hyder a’r hunan-gred i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r gorau yn y byd.

We will have the self-belief and self-confidence to stand shoulder to shoulder with the best in the world.


Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw i feithrin unigolion gwybodus ac egwyddorol a fydd yn falch o fod yn Gymry, o’u Cymreictod a’r diwylliant unigryw sy’n perthyn i’w gwlad. Byddant yn unigolion uchelgeisiol, fydd â’r hunan-hyder a’r dyhead i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda’r gorau yn y byd, beth bynnag eu doniau. Byddant yn unigolion a fydd yn ystyriol ac yn weithredol wrth ymdrin â’r heriau sy’n wynebu eu planed a’u cymunedau. Byddant yn gofalu am eu hiechyd corffrol a meddyliol, ac yn meddu ar y sgiliau a’r gwydnwch i oresgyn anawsterau bywyd. Byddant yn ddysgwyr brwd a chydwybodol, a fydd â’r hunan-gred i weld y gwerth mewn addysg a dysgu gydol eu hoes. Byddant yn oddefgar, yn garedig ac yn barchus o’i gilydd, o wahanol ddiwylliannau, cred a hil, ac a fyddant yn cyfrannu’n gyfrifol at gymdeithas ble bynnag y bônt.


Accent. Memories. Belief.


Our vision is to nurture knowledgeable and principled individuals who will be proud of being Welsh, of their language and the traditions that are unique to their country. They will be ambitious and enterprising individuals who will have the self-confidence and the aspirations to stand shoulder to shoulder with the best in the world, whatever their talents. They will be individuals who are thoughtful and active in dealing with the challenges facing their planet and communities. They will look after their physical and mental health, and have the skills and resilience to overcome life’s difficulties. They will be enthusiastic and conscientious learners, who will have the self-belief to see the value in education and life-long learning. They will be tolerant, kind and respectful of each other, of different cultures, beliefs and races, and will make a responsible contribution to society wherever they may be.